Neidio i'r cynnwys

Emmy Hennings

Oddi ar Wicipedia
Emmy Hennings
FfugenwCharlotte Leander Edit this on Wikidata
Ganwyd17 Ionawr 1885 Edit this on Wikidata
Flensburg Edit this on Wikidata
Bu farw10 Awst 1948 Edit this on Wikidata
Sorengo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethbardd, llenor, actor, perfformiwr cabaret, golygydd, canwr, chansonnier Edit this on Wikidata
MudiadDada Edit this on Wikidata
PriodHugo Ball Edit this on Wikidata

Awdures o'r Almaen oedd Emmy Hennings (17 Ionawr 1885 - 10 Awst 1948) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur a bardd.

Ganwyd Hennings yn Flensburg, yr Ymerodraeth Almaenaidd, ac fe'i disgrifiodd ei hun fel 'plentyn i longwr'. Roedd yn berfformiwr teithiol a fu'n teithio dros rannau helaeth o gyfandir Ewrop ac roedd hefyd yn fardd; pan oedd yn perfformio yn y Cabaret Simplizissimus ym München.

cyfarfu â'r awdur Almaenaidd, Hugo Ball, ac fe briodasant yn ddiweddarach. Ni chawsant blant gyda'i gilydd, ond roedd gan Hennings ferch o berthynas gynharach. Bu'n byw tuag at ddiwedd ei hoes yn Magaliso, y Swistir (o 1942-1948).

Bu farw mewn clinig yn Sorengo, yn y Swistir.[1][2]

Roedd Hennings eisoes wedi cyhoeddi nifer o'i gweithiau pan ddechreuodd ei gyrfa fel perfformwraig. Ymddangosodd ei gweithiau mewn cyhoeddiadau asgell chwith megis Pan a Die Aktion. Yn 1913 fe gyhoeddodd gasgliad o straeon byrion yn ogystal o dan y teitl Ether Poems (neu Äthergedichte). Yn ddiweddarach cyfrannodd at y cylchgrawn Revolution a sefydlwyd gan ei gŵr, Hugo Ball, a Hans Leybold. Symudodd Hennings a Ball i Zurich yn 1915 lle bu'r ddau yn gysylltiedig â sefydlu y clwb nos artistig, y Cabaeret Voltaire, a oedd yn nodi dechrau mudiad Dada, sef mudiad celf avant-garde.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Rugh, Thomas (1981). "Emmy Hennings and the Emergence of Zurich Dada". Woman's Art Journal (Woman's Art Inc.) 2 (1). JSTOR 1357892.
  2. Bärbel Reetz. Emmy Ball-Hennings: Leben im Vielleicht. Frankfurt: Suhrkamp, 2001, p. 331-332